top of page

Croeso i Ofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych (WCD)

Credu Logo

Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych

Dewch i gysylltiad am groeso cynnes

Wyt ti’n gofalu am rywun sydd ag anabledd neu rywun sy’n sâl? 

Mae llawer o blant a phobl ifanc yn gwneud hyn. Rydym ni yn meddwl dy fod yn anhygoel.

 

Weithiau caiff pobl ifanc dan 14 oed eu galw’n ofalwyr ifanc a gelwir pobl ifanc dan 25 oed yn oedolion ifanc sy’n gofalu.

 

Gall gofalu am rywun dy helpu di i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau mewn gofalu, bod yn drefnus, cael empathi, a thrafod anawsterau. Gall deimlo’n wych i helpu rhywun arall. Rydym yn gwybod hefyd y gall fod yn heriol i gefnogi rhywun tra dy fod yn jyglo cymaint o newidiadau yn dy fywyd megis ysgol / prifysgol/ gwaith/ ffrindiau / bywyd cymdeithasol, a pha mor bwysig yw hi i gael rhywun y gelli di estyn allan atynt, am sgwrs.

Mae gennym dîm cyfeillgar yng Ngofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych (WCD) sydd yma ar dy gyfer. Byddi’n gallu:

  • Sgwrsio gyda’n gweithiwr allanol am yr hyn sy’n digwydd i ti ac unrhyw gefnogaeth y byddi di ei angen o bosibl

  • Ymuno â grŵp neu weithgareddau gofalwyr ifanc sy’n agos atat ti

  • Ymuno ar-lein

  • Cymryd rhan mewn teithiau a digwyddiadau

  • Cael cefnogaeth i weithio gyda’th ysgol i oresgyn yr heriau a ddaw wrth jyglo gofalu a dysgu

  • Cael cefnogaeth i feddwl sut i fynd i’r brifysgol / cael gwaith pan fyddi’n gofalu am rywun

 

Rydym hefyd yn trefnu grwpiau cefnogaeth a gweithgareddau, a byddant yn gallu dy gysylltu gyda gofalwyr ifanc eraill sydd yn yr un sefyllfa. Mae Credu yma i ti a byddwn yn gweithio gyda thi i gyflwyno’r union gefnogaeth sydd ei hangen arnat ac yr wyt ei heisiau.

Ariella and Samson.jpg
Credu Logo White

Mae Credu hefyd yn cynnig cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu ym Mhowys (trwy Ofalwyr Credu).

Ceredigion Logo White

a Gofalwyr o bob oedran yng Ngheredigion (trwy Ofalwyr Ceredigion Carers).

Ydych chi’n gofalu am rywun yn eich teulu? 

​​

Os felly, rydych chi’n bwysig hefyd!

WCD Logo

Mae 96% o’r plant sy’n destun adolygiad bob chwarter yn nodi bod eu llesiant emosiynol / meddyliol a’u cydnerthedd wedi gwella.  O’r 249 sydd wedi ymateb i arolwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, teimlodd 87% bod  WCD wedi eu cefnogi i wella perfformiad yn yr ysgol.”

Purple Quotes

Weithiau mae’n anodd bod yn Ofalwr Ifanc oherwydd dwi ddim yn cael amser i wneud yr un pethau â phobl ifainc eraill yn eu harddegau

Purple Quotes

Cerdyn Gofalwyr Ifanc

Young Carers Cards

A oes gennyt ti dy Gerdyn Gofalwr Ifanc eto?

 

Mae’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc i Ofalwyr Ifanc.

Gofalwr Ifanc yw rhywun sy’n helpu i ofalu am ffrind neu aelod o’r teulu na allant ymdopi ar ben eu hunain oherwydd bod ganddynt anabledd, salwch corfforol neu feddyliol neu wedi’u heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau neu alcohol.

 

I ganfod mwy am ymgeisio ar gyfer y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, cysylltwch â ni

Texting on Mobile Phone
Violet Stars

Beth sy’n digwydd

Ar gyfer pob digwyddiad Cliciwch yma

Gellir dysgu mwy am yr Ap ar gyfer Gofalwyr yma: 
* Hawliau Gofalwyr Ifainc

* Cysylltiadau defnyddiol

Credu_Event_Still_1.40.1.jpg
Violet Stars

Beth sy’n digwydd

Derbyn y newyddion diweddaraf

I weld newyddion diweddaraf WCD, ewch i’n blog

Gellir tanysgrifio i dderbyn ein cylchlythyr gwybodaeth drwy glicio’r botymau isod!

Gall ein gwaith eich helpu chi neu’r bobl rydych yn eu cefnogi.

Blog diweddaraf WCD

Ar gyfer yr holl Newyddion Cliciwch yma

Credu_Event_Still_1.35.1.jpg

Gwirfoddoli

Gallwch wneud gwahaniaeth i Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr mewn ffordd sy’n addas ichi!

bottom of page