
03330 143377
Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!

Ffurflen adborth gwefan Credu / Credu website feedback form: https://forms.cloud.microsoft/e/ZVM3da4LXD
I blant a phobl ifanc sy’n gofalu am rywun
Ar y dudalen hon, byddi’n dod o hyd i wybodaeth am

Wyt ti’n gofalu am rywun sydd ag anabledd neu rywun sy’n sâl? Mae llawer o blant a phobl ifanc yn gwneud hyn. Rydym ni yn meddwl dy fod yn anhygoel.
Weithiau caiff pobl ifanc dan 16 oed eu galw’n ofalwyr ifanc a gelwir pobl ifanc dan 25 oed yn oedolion ifanc sy’n gofalu.
Gall gofalu am rywun dy helpu di i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau mewn gofalu, bod yn drefnus, cael empathi, a thrafod anawsterau. Gall deimlo’n wych i helpu rhywun arall. Rydym yn gwybod hefyd y gall fod yn heriol i gefnogi rhywun tra dy fod yn jyglo cymaint o newidiadau yn dy fywyd megis ysgol / prifysgol/ gwaith/ ffrindiau / bywyd cymdeithasol, a pha mor bwysig yw hi i gael rhywun y gelli di estyn allan atynt, am sgwrs.
Byddi’n gallu:
-
Sgwrsio gyda’n gweithiwr allanol am yr hyn sy’n digwydd i ti ac unrhyw gefnogaeth y byddi di ei angen o bosibl
-
Ymuno â grŵp neu weithgareddau gofalwyr ifanc sy’n agos atat ti
-
Ymuno ar-lein
-
Cymryd rhan mewn teithiau a digwyddiadau
-
Cael cefnogaeth i weithio gyda’th ysgol i oresgyn yr heriau a ddaw wrth jyglo gofalu a dysgu
-
Cael cefnogaeth i feddwl sut i fynd i’r brifysgol / cael gwaith pan fyddi’n gofalu am rywun
Rydym hefyd yn trefnu grwpiau cefnogaeth a gweithgareddau, a byddant yn gallu dy gysylltu gyda gofalwyr ifanc eraill sydd mewn sefyllfa debyg.
Mae Credu yma i ti ac fe fyddwn yn gweithio gyda thi i gyflwyno’r union gefnogaeth sydd ei hangen a’i heisiau arnat ti.

Yr hyn mae Gofalwyr Ifanc yn ei ddweud
"Mae bod mewn cysylltiad gyda Gofalwyr Ifanc wedi gwneud cymaint o wahaniae"
"Rwy'n hoffi trefnu pethau gyda Credu oherwydd mae'n hwyl ac yn gwneud i beth ddigwydd"
"Mae clwb yn wych ac yn rhywle lle y gallaf fod yn fi!"

Hawliau Gofalwyr Ifainc
Daw hawliau plant a phobl ifanc o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Eich hawliau fel Gofalwr Ifanc:
-
Yr hawl i ddysgu a chael addysg
-
Yr hawl i gwrdd â ffrindiau a mwynhau grwpiau a chlybiau
-
Yr hawl i ymlacio a chwarae
-
Yr hawl i breifatrwydd
-
Yr hawl i ddweud beth ddylai digwydd yn eich barn chi a chael rhywun i wrando arnoch
Cofiwch gysylltu â Credu os oes angen unrhyw gymorth gyda’ch hawliau! info@wcdyc.org.uk / 03330 143377 / WCD Young Carers on facebook





