01597 823 800
Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!
Neges o Gefnogaeth
Covid 19 Cefnogi Gofalwyr
Annwyl Ofalwr,
Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn mor bell ag sy’n bosib yn ystod y cyfnod hwn. Gwyddom fod llawer o Ofalwyr yn poeni am eu hanwyliaid mewn perthynas â’r Coronafeirws.
Mae Credu’n parhau i gefnogi Gofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr gyda’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, er bod hynny’n digwydd mewn ffyrdd gwahanol. Gweler isod dolenni at fanylion cyswllt y cymorth yn eich ardal chi. Mae gennym dudalen Facebook: www.facebook.com/creducarers a bydd gan eich gweithiwr estyn allan lleol dudalen ar y we hefyd.
Croeso ichi gysylltu â ni ynghylch unrhyw beth sy’n bwysig ichi ar hyn o bryd, boed yn:
-
Gymorth neu wybodaeth / pryderon yr hoffech eu trafod
-
Eisiau rhoi cymorth a gwybodaeth i Ofalwyr eraill
-
Awyddus i rannu syniadau ynghylch sut y gallwn roi gwell cefnogaeth i Ofalwyr a’u teuluoedd yn y cyfnod hwn. Gall olygu syniadau ymarferol iawn fydd yn cadw pobl yn ddiogel ac yn iach, neu syniadau hwyl i helpu pobl i ddal ati wrth ynysu.
Yn ogystal â chefnogi pobl mewn trafferthion difrifol, mae Gofalwyr a gweithwyr estyn allan yn awgrymu ffyrdd amrywiol i gefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhai Gofalwyr Ifainc yn rhannu heriau hwyl ar gyfryngau cymdeithasol; mae Oedolion eraill sy’n Ofalwyr yn ystyried sefydlu côr ar-lein, neu gysylltu â Gofalwyr mewn sefyllfa debyg dros y ffôn neu drwy gyfryngau cymdeithasol.
Mae cymunedau a sefydliadau’n gweithio mewn ffordd mor rhagweithiol ar hyn o bryd; mae pawb llawn ysbrydoliaeth a hyder y bydd y rhan fwyaf o bobl yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt, er ein bod wrth gwrs, yn bryderus yr un pryd.
Eto, os oes gennych unrhyw gwestiynau, pryderon neu os hoffech drafod unrhyw beth, croeso ichi ffonio.
Gyda chofion cynnes,
Pawb yn Credu
Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru
“Mae gan y cyhoedd rôl hollbwysig i’w chwarae wrth atal lledu’r feirws, ac rydym yn annog pobl i olchi eu dwylo’n amlach, ac am 20 eiliad. Dylid defnyddio sebon a dŵr neu hylif diheintio wrth gyrraedd adref, neu wrth gyrraedd eich gwaith, wrth chwythu eich trwyn, tisian neu beswch, bwyta neu drin bwyd. Bydd y cyngor yma’n eich helpu i ddiogelu eich hunan ac eraill.” Hefyd dylai pawb ddefnyddio hancesi papur i helpu atal lledu’r feirws.
I weld yr wybodaeth ac arweiniad mwyaf diweddar, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cliciwch yma:
https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/
Arweiniad Carers UK ar gyfer Gofalwyr
Cliciwch yma: https://www.carersuk.org/help-and-advice/health/looking-after-your-health/coronavirus-covid-19
Rhai dolenni defnyddiol
Ddim yn siŵr ble i fynd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf?
https://gov.wales/coronavirus - Gwefan Llywodraeth Cymru
https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/ –
Iechyd Cyhoeddus Cymru – sef asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Maent yn gweithio i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldeb o ran iechyd i drigolion Cymru.
Cyngor Sir Powys
https://en.powys.gov.uk/coronavirus
https://en.powys.gov.uk/article/8767/Coronavirus-COVID-19-daily-update
Cyngor Sir Ceredigion
hhttp://www.ceredigion.gov.uk/coronavirus
Cyngor Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Wrecsam
Gwefannau/cysylltiadau eraill defnyddiol
PAVO COVID-19 Newyddion a Gwybodaeth Bwletin:
https://mailchi.mp/a0275e80e3e4/c0ru7auynf?e=[UNIQID]
http://www.calandvs.org.uk/contact-us – Mae CTAM yn darparu llochesi a gwasanaethau i’r rhai sydd wedi dioddef neu wedi goroesi yng Ngogledd Powys (Y Drenewydd, Y Trallwng a Machynlleth)
01686 629114 neu drwy ebostio: admin@familycrisis.co.uk – Mae CTAM yn darparu llochesi a gwasanaethau i’r rhai sydd wedi dioddef neu wedi goroesi yng Ngogledd Powys (Y Drenewydd, Y Trallwng a Machynlleth)
https://www.ageuk.org.uk/cymru/ – Elusen genedlaethol yw AgeUK ar gyfer pobl hŷn, sy’n darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth a gwasanaethau cysylltiedig eraill
https://www.alzheimers.org.uk/ Elusen ym maes dementia, sy’n ymgyrchu dros newid, yn cyllido ymchwil i gael hyd i iachâd, ac yn cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia heddiw
https://youngminds.org.uk/ Elusen ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
https://www.actionforchildren.org.uk/ – yn darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc
https://www.citizensadvice.org.uk/wales/ – yn darparu cyngor a gwybodaeth ar faterion amrywiol.
Angen Cymorth?
Rhif ein prif swyddfa (sydd ar agor dydd Llun - Gwener 9.00 – 5.00, hyd yn oes yn ystod y cyfnod clo)
01597 823800 - carers@credu.cymru – Neu cysylltwch â’ch Gweithiwr Estyn Allan