top of page
Credu56.jpg
Jobs and Recruitment

Codi arian

Rydym yn chwilio am Bobl Codi Arian rhagweithiol o fewn y gymuned ar draws Powys i godi arian ar gyfer Gofalwyr a Gofalwyr Ifanc.

 

Beth mae codi arian yn ei olygu?

 

Mae codi arian nid yn unig yn golygu codi arian: mae’n cynyddu ymwybyddiaeth hefyd am yr hyn a wnawn o fewn Credu.

  • Mae codi arian yn digwydd o fewn y gymuned leol

  • Mae codi arian yn helpu i ledaenu’r gair am ein gwasanaethau cefnogi Gofalwyr.

  • Mae codi arian yn helpu Credu i gysylltu gyda’r gymuned leol ac yn annog pobl i gefnogi ein gwaith.

  • Mae codi arian yn ein helpu hefyd i ymgysylltu gyda sefydliadau, clybiau, busnesau ac ysgolion lleol.

Thursday Club 10.jpg

Beth yw’r manteision o godi arian?

Wel, yn amlwg, rydym yn codi arian ac ymwybyddiaeth am Credu fel elusen. Ond i chi fel rhywun sy’n codi arian, mae llwyth o fanteision hefyd!

  • Mae codi arian yn llawer o hwyl. Gellir ei wneud yn unigol neu mewn timau, felly gallwch ddewis yr hyn sydd orau gennych chi. Gallwch gwrdd â theulu a ffrindiau, neu gallwch ymuno â thîm a gwneud ffrindiau newydd.

  • Mae’n werth chweil i helpu eraill, a thrwy godi arian, fe fyddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r holl ofalwyr yn eich cymuned.

  • Fe fyddwch yn cymryd rhan mwy yn eich cymuned, ac yn cwrdd â phobl ddiddorol o’r un anian.

  • Fe fyddwch yn dysgu sgiliau newydd ac yn tyfu mewn hyder trwy weithio fel rhan o dîm.

  • Mae pobl sy’n codi arian yn cael gwahoddiadau unigryw i ddigwyddiadau Credu!

Credu donations illustration

Faint o amser fyddai’n rhaid i mi ei dreulio yn codi arian?

Chi sydd i benderfynu hynny!

  • Rydych chi’n penderfynu faint o amser rydych eisiau ei gyfrannu, a sut ydych eisiau ei gyflawni o amgylch ymrwymiadau eraill sydd gennych

  • Gall gweithgareddau codi arian fod yn ddigwyddiadau unigryw, neu’n cael eu cynnal ar sail barhaus

  • Mae’n hawdd ymuno.

  • Does dim angen profiad blaenorol o godi arian arnoch.

  • Chi sy’n penderfynu sut yr ydych eisiau codi arian.

  • O foreau coffi i stondinau cacenau, casgliadau bwced a nosweithiau cwisys hwyliog, mae rhywbeth at ddant pawb.

Mae pobl sy’n codi arian yn chwarae rhan hanfodol wrth godi arian ac ymwybyddiaeth yn eu hardal leol, ac yn helpu i eirioli dros Ofalwyr a Gofalwyr Ifanc.

Help a chefnogaeth ar gyfer eich gweithgareddau codi arian

Rydym yma i’ch cefnogi chi gyda chodi arian. Bydd ein gweithwyr codi arian lleol/rhanbarthol yn gallu cynnig cefnogaeth, a gallant roi gwybod i chi am ddigwyddiadau a gynhelir yn eich ardal leol, neu unrhyw grwpiau codi arian sy’n bodoli eisoes. Am ragor o wybodaeth neu os hoffech ddechrau grŵp codi arian, gallwch gysylltu â ni ar E-bost: carers@credu.cymru. Ffôn: 01597 823800

Codi Arian Ar-lein

Ydych chi’n archebu seibiant byr neu wyliau? Yn prynu ambell i beth ar Amazon? Yn archebu cetrysau inc? Yn archebu eich dosbarthiadau ar-lein cyntaf gan Asda/Tesco?

Mae cyn hawdded ag 1, 2, 3…

    • Oeddech chi’n gwybod pryd bynnag y byddwch yn prynu unrhyw beth ar-lein – o’ch siopa wythnosol hyd at eich gwyliau blynyddol – y gallech fod yn casglu cyfraniadau AM DDIM i Credu?

    • Mae dros 3,000 o siopau a safleoedd wedi’u cynnwys eisoes sy’n barod i wneud cyfraniad, gan gynnwys Amazon, John Lewis, Expedia, Aviva, Debenhams, M & S, thetrainline, Sainsbury’s a miloedd o adwerthwyr eraill – dydy o ddim yn costio ceiniog yn ychwanegol i chi!

  1. Edrychwch ar easyfundraising.org.uk/causes/credu/ ac ymuno am ddim.

  2. Pob tro y byddwch yn siopa ar-lein, ewch i easyfundraising gyntaf i ganfod y safle rydych ei eisiau a dechrau siopa.

  3. Wedi i chi dalu, bydd yr adwerthwr yn gwneud cyfraniad at eich achos da heb unrhyw gost ychwanegol o gwbl i chi!

Does dim telerau na thaliadau cudd a bydd Credu yn wirioneddol ddiolchgar am eich cyfraniadau.

Fe fyddem wrth ein boddau’n eich gweld yn cymryd rhan felly dewch i gysylltiad os oes gennych unrhyw syniadau codi arian eich hunan ar 01597 823800 neu anfonwch e-bost at carers@credu.cymru

Diolch i chi am eich cefnogaeth … mae’n rhyfeddol sut y bydd y cyfan yn cronni!

carers on a zoom meeting illustrations
Useful Links
piggy bank illustrations

Cyfrannu i Gefnogi Credu

Mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud cyfraniad.

  • Gallwch drefnu digwyddiad codi arian, neu gymryd rhan mewn gweithgaredd noddedig.

  • Gallwch wneud cyfraniad unigryw neu reolaidd, neu drefnu cyfraniad yn eich ewyllys.

  • Gallwch ofyn am gyfraniad er cof am anwyliaid, er enghraifft, i nodi pen-blwydd pwysig neu’n hytrach na blodau angladd.

 

Mae gennym gyfrif PayPal, gallwn dderbyn trosglwyddiadau banc wrth gwrs, a gallwch ddefnyddio JustGiving. Cysylltwch â’r swyddfa am ragor o wybodaeth.

Donate
bottom of page