01597 823 800
Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!
Ffurflen Atgyfeirio
Mae’r ffurflen hon ar gyfer Gofalwyr Ifanc di-dâl/anffurfiol sy’n byw yn Wrecsam, Conwy neu Sir Ddinbych i ymuno â rhestr bostio Credu a/neu am gefnogaeth. Mae’n ddolen ddiogel i Gronfa Ddata ‘Charity Log’ Credu.
Trwy lenwi’r ffurflen hon, rydych yn rhoi caniatâd i Credu ddefnyddio’r wybodaeth i gysylltu â chi am eich ymholiad. Dylech ddisgwyl ymateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Os ydych yn defnyddio’r ffurflen hon i wneud atgyfeiriad ar ran rhywun arall, rydych yn cadarnhau fod gennych ganiatâd oddi wrth y Gofalwr i rannu’r wybodaeth hon gyda Credu.
Mae WCD yn cymryd preifatrwydd Gofalwyr Ifanc a’u teuluoedd o ddifrif ac fe fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’n galluogi ni i’ch cefnogi chi ac i fonitro’r gwahaniaeth a wnawn.
Gellir rhannu gwybodaeth bersonol gyda’r Awdurdod lleol perthnasol (Wrecsam, Conwy neu Sir Ddinbych) fel ‘tasg gyhoeddus’ fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Efallai y byddwn yn awgrymu y gallai sefydliadau a gwasanaethau eraill gefnogi’r Gofalwyr Ifanc, a byddwn ond yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol i’r rheini sydd â chaniatâd y Gofalwr Ifanc a rhieni, oni bai fod rhywun o bosibl mewn perygl.
Am wybodaeth bellach ar sut rydym yn prosesu data personol, hawliau gwarchod data Gofalwyr Ifanc neu i gwyno am sut yr ydym yn trin eich gwybodaeth, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd neu gysylltu â ni trwy anfon neges e-bost at carers@credu.cymru neu ffonio 01597 823800.