top of page

Cyfrannu

Ar y dudalen hon, byddi’n dod o hyd i wybodaeth am

Young Carers Holding Hands illustration
Jobs and Recruitment

Cyfleoedd newydd i Ymuno â’r Tîm

Diolch am eich diddordeb mewn cefnogi Gofalwyr.

Nid ydym yn recriwtio ar gyfer Gweithiwr Allgymorth ar hyn o bryd, ond rydym yn hysbysebu swyddi newydd yn rheolaidd, felly edrychwch yn ôl cyn bo hir neu cysylltwch â ni.


Rydym â diddordeb mewn gweithwyr sesiynol i gefnogi grwpiau'n rheolaidd gyda rhai oriau bob pythefnos yn Wrecsam, Dinbych a Rhyl, ac yn achlysurol ar deithiau.

Cysylltwch â ni ar: hr@credu.cymru

BreakOutCredu54web.jpg

Gwirfoddoli

Volunteering

Gallwch wneud gwahaniaeth i Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr mewn ffordd sy’n addas i CHI! 

Lawrlwytho ffurflen Datgan Diddordeb yma

Os hoffech gefnogi Gofalwyr Ifainc/Oedolion sy’n Ofalwyr mewn ffordd anffurfiol fel rhan o’ch gwaith gwirfoddol gyda grŵp neu sefydliad arall, neu os hoffech wirfoddoli gyda Credu, mae amrediad eang o ffyrdd bach a mawr cyffrous ichi gyfrannu i gefnogi Gofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr yn eich cymuned chi!

Ymhlith enghreifftiau o’r rolau mae: cymorth dros y ffôn i ofalwyr; helpu allan mewn grwpiau; sefydlu clybiau gwaith cartref; staffio siopau elusennol; ysgrifennu erthygl ar gyfer cylchgrawn Gofalwyr a llawer mwy. Byddem yn hoffi dod i’ch adnabod CHI: eich diddordebau, eich sgiliau, eich syniadau a’ch profiadau bywyd a’r hyn rydych yn frwdfrydig amdano. Credwn fod gan bob unigolyn safbwynt unigryw a sgiliau sy’n werthfawr i eraill. Rydym wedi ymrwymo i’ch galluogi i ffynnu yn y rôl rydym yn ei chreu gyda’n gilydd. 

Mae'r cyfrifoldebau gwirfoddoli gyda’r sefydliad yn hyblyg, ac yn rhoi rheolaeth llwyr mwy neu lai ichi dros eich oriau a’ch llwyth gwaith. Mae pob eiliad o’ch amser yn bwysig inni, ac ni fyddwn yn rhoi pwysau arnoch i wneud mwy nag y byddech yn dewis. Os byddai’n well gennych gynnig cymorth personol neu arwain grwpiau mawr, neu os hoffech estyn gwahoddiad i siaradwyr gwadd i’ch grŵp lleol i godi ymwybyddiaeth am Ofalwyr, gall Credu roi gwybodaeth/hyfforddiant/cymorth ichi wneud hynny.

 

"Nid peth hawdd bob amser yw cefnogi Gofalwyr fel un o wirfoddolwyr Credu, ond mae wastad yn werth chweil.  Yn fy llygaid i, nid wyf yn gwneud llawer iawn, siarad gyda neu’n gwrando ar Ofalwyr rwyf yn eu cefnogi; ond mae rhyw deimlad enfawr o fraint mai gyda fi y mae Gofalwr yn dewis rhannu ei deimladau, heriau a meddyliau. Rwyf yn llawn edmygedd ar gyfer y Gofalwyr rwyf yn eu cefnogi, ac os bydd fy ngalwadau i ar ran Credu yn rhoi ychydig o gymorth iddynt, mae hynny’n ddigon o gyfiawnhad imi.” – John Raftree, un o Wirfoddolwyr Credu . 

Mae Credu yn gosod y sylfeini i groesawu gwirfoddolwyr newydd a’u cynorthwyo gyda’u teithiau personol a phroffesiynol. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi dyrannu 6 mis o gyllid i Credu, i’n galluogi i recriwtio, hyfforddi a chefnogi mwy o bobl er mwyn cefnogi Gofalwyr o bob oed yn ystod pandemig Covid-19 a thu hwnt. Ein nod yw galluogi pobl sy’n meddu ar sgiliau a phrofiad i gael lle priodol unigol o fewn y sefydliad, gan greu eu syniadau eu hunain a gweithio yn eu cymunedau eu hunain. Byddwn yn croesawu unrhyw un sydd â chynllun a brwdfrydedd i wireddu hyn, a byddwn yn rhoi cymorth a chefnogaeth llawn iddynt. 

Mae’r holl sesiynau am ddim, ac mae Credu’n gweithio i sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb.

ein nodau ar gyfer cefnogi gwirfoddolwyr

  • Grymuso gwirfoddolwyr i ddefnyddio eu cryfderau gyda Credu.

  • Gwirfoddolwyr yn teimlo bod ganddynt gysylltiadau ac maent yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o dîm ehangach Credu 

  • Cydnabyddwn fod gan bob unigolyn gryfderau, ac y gall pawb gyfrannu rhywbeth 

  • Rydym yn awyddus i alluogi Gwirfoddolwyr i ffynnu a thyfu o fewn ein sefydliad

Boys on a bench illustration
BreakOutCredu38.jpg
Our Process

Cysylltiadau defnyddiol 

Gellir lawrlwytho Ffurflen Datgan Diddordeb yma

Gwefan CGGC ar gyfer adnoddau

Gwefan Gwirfoddoli Cymry i hysbysebu swyddi ac i chwilio am Wirfoddolwyr

Credydau Amser Tempo i’w defnyddio ar gyfer swyddi Gwirfoddolwyr lle bo’n briodol

PAVO, Canolfannau gwirfoddoli

Prosiect Eden ar gyfer cyrsiau/syniadau prosiect ym maes datblygu cymunedol

Useful Links

Ar gyfer ein timau ar draws  WCD:

I gysylltu â thimau Gofalwyr Ifainc WCD  (Gogledd Cymru), gallwch anfon neges at y brif swyddfa trwy ddefnyddio’r ffurflen isod, neu gallwch gysylltu â’r brif swyddfa ar: 03330 143377 ein cyfeiriad ebost yw: info@wcdyc.org.uk

Neges wedi Hanfon yn Llwyddiannus

  • Facebook
  • X
Denbighshire County Council Logo
Children in Need Logo
NHS Wales Logo
Wrexham logo
conwy Logo
Steve Morgan logo
Carers Trust Wales Logo
WCD Logo White
Credu Logo no words

Elusen gofrestredig yw Credu yn Cefnogi Gofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu Cyfyngedig (Gwasanaeth Gofalwyr Powys yn flaenorol) yng Nghymru a Lloegr (rhif 1103712), a chwmni cyfyngedig trwy warant (rhif 04779458).

Mogwai Media Yellow Ms Logo

Dyluniwyd gan: Mogwai Media LTD

© 2022 Gan Mogwai Media 

bottom of page