01597 823 800
Mae angen eich cefnogaeth ar Ofalwyr Ifainc ac Oedolion sy’n Ofalwyr!
Croeso i Ofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych (WCD)
Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych
Dewch i gysylltiad am groeso cynnes
Mae Credu hefyd yn cefnogi Credu : Gofalwyr Ifanc ac Oedolion sy’n Gofalu Powys & Gofalwyr Ceredigion Carers
Wyt ti’n gofalu am rywun sydd ag anabledd neu rywun sy’n sâl?
Mae llawer o blant a phobl ifanc yn gwneud hyn. Rydym ni yn meddwl dy fod yn anhygoel.
Weithiau caiff pobl ifanc dan 14 oed eu galw’n ofalwyr ifanc a gelwir pobl ifanc dan 25 oed yn oedolion ifanc sy’n gofalu.
Gall gofalu am rywun dy helpu di i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau mewn gofalu, bod yn drefnus, cael empathi, a thrafod anawsterau. Gall deimlo’n wych i helpu rhywun arall. Rydym yn gwybod hefyd y gall fod yn heriol i gefnogi rhywun tra dy fod yn jyglo cymaint o newidiadau yn dy fywyd megis ysgol / prifysgol/ gwaith/ ffrindiau / bywyd cymdeithasol, a pha mor bwysig yw hi i gael rhywun y gelli di estyn allan atynt, am sgwrs.
Mae gennym dîm cyfeillgar yng Ngofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych (WCD) sydd yma ar dy gyfer. Byddi’n gallu:
-
Sgwrsio gyda’n gweithiwr allanol am yr hyn sy’n digwydd i ti ac unrhyw gefnogaeth y byddi di ei angen o bosibl
-
Ymuno â grŵp neu weithgareddau gofalwyr ifanc sy’n agos atat ti
-
Ymuno ar-lein
-
Cymryd rhan mewn teithiau a digwyddiadau
-
Cael cefnogaeth i weithio gyda’th ysgol i oresgyn yr heriau a ddaw wrth jyglo gofalu a dysgu
-
Cael cefnogaeth i feddwl sut i fynd i’r brifysgol / cael gwaith pan fyddi’n gofalu am rywun
Rydym hefyd yn trefnu grwpiau cefnogaeth a gweithgareddau, a byddant yn gallu dy gysylltu gyda gofalwyr ifanc eraill sydd yn yr un sefyllfa. Mae Credu yma i ti a byddwn yn gweithio gyda thi i gyflwyno’r union gefnogaeth sydd ei hangen arnat ac yr wyt ei heisiau.
Mae 96% o’r plant sy’n destun adolygiad bob chwarter yn nodi bod eu llesiant emosiynol / meddyliol a’u cydnerthedd wedi gwella. O’r 249 sydd wedi ymateb i arolwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, teimlodd 87% bod WCD wedi eu cefnogi i wella perfformiad yn yr ysgol.”
Weithiau mae’n anodd bod yn Ofalwr Ifanc oherwydd dwi ddim yn cael amser i wneud yr un pethau â phobl ifainc eraill yn eu harddegau
Cerdyn Gofalwyr Ifanc
A oes gennyt ti dy Gerdyn Gofalwr Ifanc eto?
Mae’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc i Ofalwyr Ifanc.
Gofalwr Ifanc yw rhywun sy’n helpu i ofalu am ffrind neu aelod o’r teulu na allant ymdopi ar ben eu hunain oherwydd bod ganddynt anabledd, salwch corfforol neu feddyliol neu wedi’u heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau neu alcohol.
I ganfod mwy am ymgeisio ar gyfer y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, cysylltwch â ni